Gwennol y glenndd / Riparia riparia / Sand martin
Am enw. Gwennol y glennydd. Mae hyd yn oed adar yn tynnu tuag at gynghanedd.
A dyma’r gwennoliaid lleol ym Mhorth Tywyn.
Allwch chi weld y wennol yn y llun cynta’?
Ma’r enw Cymraeg i’r apus apus (Swift) hefyd o gymorth wrth ddod i adnabod y wahaniaeth rhwng adar sy’n debyg iawn. Ma’r ‘wennol ddu’ yn crynhoi un o’r gwahaniaethau hynny sydd o gymorth i bawb wrth adnabod y gwahaniaeth.
Rhyfeddod yw’r daith anhygoel i bob un o deulu’r ‘hirundine’. A gwyrth yw eu bod yma o gwbwl – yn enwedig wrth ystyried bod y boblogaeth wedi bron diflannu dwy waith yn yr hanner canrif ddiwetha’ oherwydd sychder gaeafol yn yr Affrig.
Pa obaith i’r dyfodol wrth ystyried newid hinsawdd?